top of page


"Lleolir Pwll Lee Gardens yng nghanol pentref Penrhiwceiber. Mae gwirfoddolwyr Lee Gardens yn grŵp rhwng cenedlaethau o bobl, dan 7 oed i dros 75 oed. Rydym yn cydweithio i gynnal y pwll awyr agored, a adeiladwyd gydag arian oddi wrth ein glowyr a oedd yn gweithio mor galed. Agorwyd y pwll ym 1957. Er nad yw Penrhiwceiber bellach yn bentref mwyngloddio, mae ein treftadaeth gloddio yn bwysig iawn i ni.

 

Caewyd pwll Lee Gardens yn 2013 oherwydd toriadau ariannol. Yn 2016, fe wnaeth gwirfoddolwyr Pwll Lee Gardens gyda help partneriaid cymunedol - ail agor y pwll er fudd Penrhiwceiber ar bentrefi cyfagos.

 

Cysylltwch â ni os hoffech fod yn rhan o’r prosiect dynamig yma! Allech helpu yn achlysurol neu bob wythnos: mae'n benderfyniad i chi wneud. Ni all rhai gwirfoddolwyr helpu ni ar y safle ond yn helpu wrth greu'r cacennau mwyaf blasus a gwau pethau ar gyfer ein digwyddiadau codi arian. Mae gwirfoddolwyr eraill yn helpu ni gydag adeiladu, paentio ac un rhywbeth arall sydd angen gwneud o gwmpas y pwll. Mae yna digon i wneud o gwmpas y pwll a fyddwn wrth ein bodd gydag eich cwmni!"

bottom of page